Amcanion Cyffredinol
Mae’r cwrs ar gyfer disgyblion cam allweddol pedwar yn adeiladu ar y gwaith a osodwyd eisioes fel sail yn ystod blynyddoedd cynnar Yr Ysgol. Fe barheir â’r weledigaeth o wneud mathemateg yn bwnc perthnasol a byw sydd â rôl anhepgor yn natblygiad yr unigolyn go gyfer a’r unfed ganrif ar hugain.
Wrth astudio’r pwnc gaiff pob disgybl gyfle i ddatblygu ei gysyniadau mathemategol a hyderir y bydd ei ddeallusrwydd rhesymegol yn datblygu law yn llaw a’r cysyniadau hyn.
Manylion y cwrs
Bydd disgyblion o bob gallu yn dilyn cwrs sy’n addas ar gyfer eu lefel mathemategol.
Yn unol â gofynion y cwricwlwm cenedlaethol fe rennir pob cwrs yn dri amcan asesu (A.A), sef:
A.A 1) Cofio a defnyddio gwybodaeth o’r cynnwys rhagnodedig.
A.A.2) Dewis a chymhwyso dulliau mathemategol mewn amrediad o gyd destunau.
A.A 3) Dehongli a dadansoddi problemau a chynhyrchu strategaethau i’w datrys.
Bydd defnydd eang o Dechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu yn ran annatod o gyflwyniad y cwrs yn arbennig felly wrth gwblhau ymchwiliadau ystadegol
Bydd pob disgybl unai yn dilyn y cwrs T.G.A.U sy’n berthnasol i’w allu neu’r cwrs lefel mynediad yn achos y rhai sy’n gweithio ar lefel mwy elfennol. Mae dwy haen ar gael i ddisgyblion T.G.A.U Mathemateg, sef yr Haen Uwch a’r Haen Sylfaenol.
Haen Sylfaenol
Haen Uwch
Marciau Prawf
Rhaglen 8
______________________________________________________________________________
<- CA3 Lefel A ->
Comments (0)
You don't have permission to comment on this page.